Lles Natur
Gwella Iechyd a Lles trwy Natur
Croeso
Gall cysylltu â natur a bod yn egnïol yn yr awyr agored wella iechyd a lles pobl.
Mae tystiolaeth sylweddol i ddangos bod y manteision a’r canlyniadau cadarnhaol yn cynnwys rheoli pwysau’n well, helpu i atal clefydau cronig, megis diabetes Math 2 a gorbwysedd, a gwella iechyd a lles meddyliol drwy leihau straen a phryder. Mae gweithgareddau awyr agored cymunedol hefyd yn hyrwyddo ac yn creu cysylltiadau cymdeithasol ag eraill, gan gefnogi a gwella lles eto.
Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am y cyfleoedd a ddarperir gan grwpiau a sefydliadau ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili i bobl fod yn fwy egnïol yn yr awyr agored a mwynhau eu mannau gwyrdd er budd lles ac iechyd. Yn ogystal ag annog pobl i fynd allan yn anffurfiol yn eu hardaloedd eu hunain, rydym am i bobl ddeall beth sydd ar gael ac ymhle.
Mae’r partneriaid hyn hefyd wedi ffurfio Rhwydwaith Lles Natur newydd ar draws y fwrdeistref sy’n cydweithio â meddygon teulu, gweithwyr iechyd proffesiynol, ac asiantaethau cymorth perthnasol sy’n gallu atgyfeirio pobl, fel a lle bo’n briodol, i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, seiliedig ar natur.
Darparwyr
Mae Rhwydwaith Lles Natur yn cynnwys y sefydliadau isod, gyda mwy yn cael eu hychwanegu. Mae pob dolen yn arwain yn uniongyrchol at wefan y darparwr.
Coed Lleol
Gweithgareddau iechyd a lles coetir i helpu i anadlu bywyd i'ch enaid, tra'n gofalu am yr amgylchedd.
Mannau Gwyrdd Caerffili
Nid oes lle gwell na'r awyr agored ar gyfer awyr iach ac ymarfer corff. Ewch allan a darganfod!
Awyr iach dydd Gwener
Mynd â phobl allan fel eu bod yn teimlo'n dda y tu mewn. Helpu i gefnogi lles meddyliol ac emosiynol.
Groundwork Wales
Creu cymunedau cryfach, iachach, busnes cyfrifol a gwell rhagolygon i bobl leol.
Growing Space
Yn cwmpasu ystod o sgiliau garddwriaeth, galwedigaethol a chyflogadwyedd yng Nghanolfan Adnoddau Hafod Deg.
Ymddiriedolaeth Natur Gwent
Diogelu bywyd gwyllt ac adfer lleoedd gwyllt ledled Gwent, gyda chefnogaeth rhwydwaith cynyddol o bobl.
Hengoed Wellbeing Group
Grŵp cymdeithasol cymunedol i hyrwyddo lles a phositifrwydd. Cynnes a chroesawgar.
Gwirfoddolwyr CV19 Rhisga
Rydyn ni'n meithrin, rydyn ni'n tyfu, rydyn ni'n rhannu ac rydyn ni'n cysylltu. Wedi ymrwymo i greu cymunedau grymus a chadarn.
Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Cysylltu pobl â mentrau awyr agored a phrosiectau cymunedol i greu dysgu hamdden a sgiliau.


